Roedd ‘Gweithio’n Gymraeg’ yn brosiect a weithredwyd gan Urdd Gobaith Cymru. Roedd yn targedu pobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed er mwyn iddynt allu cyflawni eu potensial ac er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwneud y mwyaf o’r Gymraeg wrth ddod yn rhan o’r byd gwaith. Roedd prosiect yn targedu pobl ifanc oedd mewn risg o ddatgysylltu eu hunain o fyd addysg, sydd heb reolaeth yrfaol dda a/neu sydd wedi eu cyfeirio at gymorth ychwanegol gan Yrfa Cymru a/neu’r Ysgol.
Prif ffocws y prosiect oedd sicrhau bod darpariaeth anffurfiol megis gweithgareddau allgyrsiol, sesiynau ieithyddol ychwanegol a darparu achrediadau (yn uniongyrchol neu wedi ei chyd-drefnu ag eraill) cyfrwng Cymraeg ar gael i bobl ifanc sydd wedi derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Treuliwyd amser, yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg fel sgil economaidd ac fel mantais wrth geisio am waith, cynyddu’r nifer o leoliadau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i bobl ifanc dderbyn profiad gwaith. Disgrifiwyd y prosiect fel un arloesol a chreadigol a chafodd ei beilota mewn chwe ardal amrywiol yng Nghymru.
Er sawl ymgais at Lywodraeth Cymru a’i awgrym i ymgeisio ar gyfer arian WEFO a chreu prosiect cenedlaethol ar y cyd gyda Gyrfa Cymru, nid oedd ganddynt yr awydd i gyllido ymhellach.
- Cyflogwyd 6 aelod o staff i wireddu amcanion y prosiect.
- Denwyd 914 o bobl ifanc i fod yn rhan o’r prosiect a chofnodi gwelliant un lefel mewn allbwn
- meddal.
- Cofnodwyd 656 ar gyfer mesur cynnydd drwy ddull ‘Dangos Llwyddiant’ gan ystyried gwelliant yn y canlynol; sgiliau addas a pherthnasol ar gyfer cyflogaeth, gweithio gydag eraill, parch at eraill, ysgogiad ac annibyniaeth, a gallu a hyder i ddefnyddio’r Gymraeg.
- Cydweithiwyd gydag 11 o sefydliadau addysgol i weithredu’r prosiect - roedd y rhain yn ysgolion a nodwyd gan Gyrfa Cymru fel rhai oedd angen cymorth ychwanegol yn y Gymraeg a sgiliau cyflogadwyedd
- Cynhaliwyd sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith dwys i 670 o bobl ifanc er mwyn codi gwerth y
- Gymraeg, drwy ystyried ei gwerth yn y byd gwaith ac yn gymdeithasol.
- Achredwyd 423 o bobl ifanc fel rhan o’r prosiect.
Yn yr adroddiad (wedi atodi) tudalennau 26-28 – gweler y 4 tabl canlynol
Tabl 2: Proffil Ieithyddol y Bobl Ifanc a Gyfranogodd yn y Prosiect yn ôl Ardal:
Tabl 3: Defnydd Ieithyddol Pobl Ifanc Gyda’u Ffrindiau
Tabl 4: Pwysigrwydd y Gymraeg i’r Dyfodol ym Marn y Bobl Ifanc cyn y Prosiect (%)
Tabl 5: Pwysigrwydd y Gymraeg i’r Dyfodol ym Marn y Bobl Ifanc ar ôl y Prosiect (%)
Roedd y Gweithio’n Gymraeg wedi llwyddo i newid ymddygiad ac agweddau er enghraifft
“Roedd mwyafrif y bobl ifanc wedi mynegi eu bod yn “teimlo gymaint mwy hyderus,” wrth siarad Cymraeg ar ôl cymryd rhan yn y prosiect. Mynegodd un person ifanc mai “cwrteisi ac nid lifestyle,”oedd siarad Cymraeg cyn cymryd rhan, ond fod hyn bellach wedi newid a'u bod “yn ei defnyddio lot, lot mwy nawr.” Yn benodol, roedd nifer o’r bobl ifanc yn teimlo nad oedd llawer o bwrpas i ddefnyddio’r iaith heblaw am yn yr ysgol, ond erbyn hyn eu bod yn teimlo “bod llawer mwy o gyfleoedd ychwanegol oherwydd y prosiect a dysgu sut i siarad Cymraeg gwell.”
Drwy ymgysylltu a’r bobl ifanc a’u hannog i gymryd rhan yn y gweithgareddau, roedd nifer o’r bobl ifanc yn “dysgu sut i siarad gyda phobol yn well” a sut i gyfathrebu ymysg ei gilydd yn ogystal. Gellir dadlau bod hyn o ganlyniad i fagu gwell hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg ac wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau tu mewn a thu allan i’r ysgol oedd yn eu gorfodi i gyfathrebu gydag eraill megis cyrsiau awyr agored, cymhwyster gwaith ieuenctid a’r achrediadau’n gyffredinol. Mae hyn hefyd yn ffactor mae cyflogwyr yn parchu ac yn chwilio amdano mewn pobl ifanc.
Mynegodd un person ifanc ei fod yn “teimlo fel esiampl dda i ddisgyblion eraill yr ysgol, yn enwedig y rhai iau,” a bod y profiadau newydd wedi galluogi iddo gyfathrebu’n well gydag athrawon a’i gyfoedion.
“Doedd dim pwrpas i fi siarad Cymraeg cynt, a ni just fel, beth yw’r pwynt rili, ond pan ti’n gweld petha fatha jobsys a gyrfaoedd a stwff sydd ar gael allan yna i bobl sy’n siarad Cymraeg, a bod cyflogwyr yn licio gweld Cymraeg ar CV ti, mae’n gwneud i ti sylweddoli.”
Mae prosiect Gweithio’n Gymraeg wedi darparu cyfres o sgiliau newydd iddynt allu eu datblygu, cyfle nad oedd ar gael o’r blaen iddynt. Fel yr amlygwyd gan un person ifanc:
“Doedd gan yr athrawon dim amser i fi, doeddwn i ddim yn neud y gwaith yn y dosbarth ac ro'n i just yn chwarae o gwmpas rili. Dwi di cal neud pethau newydd nawr sy’n golygu fydd gen i rhywbeth i roi ar CV fi.”
Cafwyd newid agwedd yn ogystal tuag at y Gymraeg fel sgil gwaith neu sgil gwerthfawr a defnyddiol ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, ac fel yr amlygodd un person ifanc:
“Doeddwn i ddim yn siarad Cymraeg lot o’r blaen. Do ni’m yn gweld y pwynt rili, everyone understands English don’t they! Ond dwi siarad o lot mwy nawr ac yn meddwl ella fydd mwy o siawns i fi gal joban ar diwedd pob dim.”
- Amlygwyd yn bennaf bod pobl ifanc wedi cael y cyfle i “fod yn rhan o weithgareddau tu allan i’r bocs”.
- Y bobl ifanc wedi cael “hyder” wrth weithio gyda phobl ifanc eraill a chyda mudiadau oedd yn darparu gwasanaethau eraill.
- Awgrymwyd bod gwerth y prosiect gymaint yn fwy oherwydd bod mudiadau yn cydweithio er mwyn darparu gwasanaeth mwy cyflawn nad oedd yn cael ei ddyblygu mewn unrhyw faes arall.
- Roedd gallu cydweithio ar weithgareddau megis ysgrifennu CV, cyfweliadau ffug ac achrediadau yn effeithiol iawn.
- Awgrymwyd bod y prosiect, unwaith yn rhagor, wedi llwyddo i gyfuno dulliau addysg ieuenctid anffurfiol a dulliau addysg mwy ffurfiol yr ysgol, drwy gydweithio a threfnu gweithgareddau effeithiol.
“Mae’r swyddogion wedi bod yn wych. Mae nhw wedi neud i ni feddwl am ffyrdd o gael pobl ifanc i gymryd rhan mewn pethau gwahanol a sut i engagio a nhw rili. Mae’n anodd oherwydd dim ond hyn a hyn o oriau sydd mewn diwrnod a ti methu rhoi amser i bawb.
Mae’r Urdd wedi dangos i ni fod o’n bosib rhoi’r cyfrifoldeb i aelodau eraill o’r chweched i edrych ar ôl a helpu disgyblion eraill.”
- Bod y berthynas rhwng yr Urdd a mudiadau eraill sydd yn darparu gwasanaethau i bobl ifanc yn cael ei gynnal ac yn parhau i fod o fudd i bobl ifanc o safbwynt cyfleoedd a chefnogaeth yn gyffredinol.
- Awgrymwyd y byddai buddsoddiad hirdymor, ychwanegol yn gwireddu’r Strategaeth
- Ieuenctid ymhellach, drwy hybu pobl ifanc i ystyried eu sgiliau cyflogadwyedd a’r
- cyfleoedd posib ar eu cyfer. Yn ogystal, byddai’n brosiect effeithiol wrth geisio pontio rhwng sefydliadau gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol.
|
Iaith |
||
Dysgwyr |
Cymraeg |
Cyfanswm |
|
Rhanbarth |
Aelodau |
Aelodau |
Aelodau |
Ynys Môn |
445 |
2,432 |
2,877 |
Eryri |
182 |
4,240 |
4,422 |
Meirionnydd |
138 |
1,734 |
1,872 |
Conwy |
1,118 |
1,627 |
2,745 |
Dinbych |
1,054 |
1,397 |
2,451 |
Fflint a Wrecsam |
2,091 |
1,494 |
3,585 |
Maldwyn |
1,207 |
1,077 |
2,284 |
Brycheiniog a Maesyfed |
187 |
351 |
538 |
Ceredigion |
843 |
3,630 |
4,473 |
Gorllewin Myrddin |
533 |
2,387 |
2,920 |
Dwyrain Myrddin |
975 |
2,138 |
3,113 |
Penfro |
1,499 |
1,541 |
3,040 |
Gorllewin Morgannwg |
988 |
2,320 |
3,308 |
Morgannwg Ganol |
1,638 |
2,001 |
3,639 |
Cymoedd Morgannwg |
1,232 |
1,348 |
2,580 |
Caerdydd a'r Fro |
964 |
3,614 |
4,578 |
Gwent |
2,521 |
2,252 |
4,773 |
Tu allan i Gymru |
31 |
89 |
120 |
|
17,646 |
35,672 |
53,318 |
Nod cynllun Llwybrau i’r Brig yr Urdd oedd gwella sgiliau pobl ifanc yn y Gymraeg a chodi eu dyheadau. Roedd yn rhoi’r cyfle i’r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan i feithrin sgiliau oedd yn gysylltiedig â byd gwaith, ynghyd â gwella hyder pobl ifanc er mwyn iddynt symud ymlaen yn hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg i addysg uwch a chyflogaeth yn rhwyddach.
Gwariant o £4.3 miliwn (gan gynnwys £2.1m o arian Ewropeaidd)
5,676 o bobl ifanc wedi eu
cynorthwyo
1,801 o gyfranogwyr 11-13 mlwydd oed
3,875 o gyfranogwyr 14-19 mlwydd oed
Ar gyfartaledd, gwariant o £744 fesul cyfranogwr
2,056 o bobl ifanc wedi ennill cymhwyster
Mae tystiolaeth fod canran uchel o’r cyfranogwyr y cynllun wedi elwa o’r profiad, gan gynnwys:
- Y data a gasglwyd o’r holiadur a ddosbarthwyd i gyfranogwyr wrth i’w hamser gyda’r cynllun ddod i ben (1,182 o ymatebion) sy’n dangos bod y mwyafrif helaeth (75%) yn credu bod cymryd rhan wedi bod o ryw fantais iddynt (er bod natur y fantais honno yn aneglur);
- Y data ar gyfer 1,443 o gyfranogwyr sydd yng nghronfa ddata Dangos Llwyddiant2 y cynllun sy’n dangos bod newid positif wedi’i gofnodi ar gyfartaledd gyfer pob un o’r sgiliau a thueddiadau cymdeithasol ac emosiynol sydd yn y fframwaith.
- Astudiaethau achos ar gyfer unigolion sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun3.
Mae barn staff a rhanddeiliaid yn cyd-fynd â’r uchod, ond yr effaith fwyaf amlwg iddynt hwy oedd datblygiad hyder y cyfranogwyr a oedd wedi cymryd rhan. Roeddent hefyd o’r farn fod y cynllun wedi cyflawni pob un o’r amcanion yng nghynllun busnes y cynllun.
Dangosodd y gwerthusiad bod 25% o gyfranogwyr y cynllun yn byw mewn ward sydd yn yr 20% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, a 47% yn byw yn y 40% mwyaf difreintiedig (yn ôl Malc). Mae’r ffaith fod 25% o gyfranogwyr cynllun Llwybrau i’r Brig yr Urdd yn dod o’r wardiau 20% mwyaf difreintiedig yn awgrymu bod y cynllun wedi llwyddo i ryw raddau i ymgysylltu â’r rheini sydd fwyaf mewn perygl.
Roedd staff a rhanddeiliaid allanol yn fwyaf cadarnhaol ynglŷn â’r amcan i gynyddu nifer y profiadau i bobl ifanc sy’n cael eu hachredu trwy gyfrwng y Gymraeg, amcan sydd yn amlwg yn bwysig o safbwynt yr Urdd.
Dengys y data fod canran uchel iawn o’r cyfranogwyr yn gallu deall (94%), siarad (90%), darllen (90%) ac ysgrifennu (90%) yn y Gymraeg ac yn amlwg nid yw hyn yn annisgwyl. Ond, mae’n ddiddorol bod 58% wedi dewis Saesneg fel yr iaith y byddent yn dymuno derbyn unrhyw ohebiaeth ynddi. Awgryma hyn fod y cynllun wedi gallu ymgysylltu â phobl ifanc sydd yn gallu’r Gymraeg ond sy’n dewis peidio â’i defnyddio iaith o ddydd i ddydd. Eto, mae hyn yn bwysig o bersbectif gallu’r cynllun i helpu i gyflawni amcanion yr Urdd. Roedd cyfweliadau â rhanddeiliaid allanol yn awgrymu bod y cynllun wedi dechrau newid delwedd rhai pobl o’r Urdd a’r gweithgareddau y mae’r mudiad yn eu cynnig/hybu mewn ffordd bositif
Gweler yr adroddiad – wedi atodi
Nod gweithgareddau Cymraeg Bob Dydd yw cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg i ymestyn eu defnydd o’r Gymraeg yn allgyrsiol.
Llwyddwyd i gyflawni’r holl ddeilliannau a nodwyd.
Deilliannau:
- 15+ o ddysgwyr TGAU, UG a SU Cymraeg yn fwy hyderus i siarad Cymraeg tu allan i’r gwersi.
- 15+ o ddysgwyr TGAU, UG a SU Cymraeg yn gwneud defnydd ehangach o’u sgiliau iaith Gymraeg.
- 15+ o ddysgwyr TGAU, UG a SU Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg gyda disgyblion eraill yr ysgol.
- Cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n dewis TGAU Cymraeg ail iaith cwrs llawn (ble bo’n ddewisol) a’r nifer sy’n astudio UG a Safon Uwch Cymraeg ail iaith.
Diwedd